Mae Kokoro Arts yn cefnogi ac yn hyrwyddo datblygiad a gwaith artistiaid ifanc, yn hwyluso trafodaethau ar draws y sector ac yn hyrwyddo cynhwysiant, hygyrchedd ac amrywiaeth ledled sector dawns Cymru.
Gundija Zandersona - Cyfarwyddwr Gweithredol
Mari Northall - Cyfarwyddwr Creadigol
Fel cwmni rydym yn gweithio i bedwar prif gyfeiriad:
Cefnogaeth artistiaid symud Gyrfa Ifanc a Chynnar
Gwaith Ieuenctid Rhyngwladol
Gwaith Dawns Cymunedol
Gwaith Creadigol mewn Ysgolion
Rydym yn sefydliad celfyddydol dielw a gefnogir gan gyllidwyr fel Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru, Cyllid y Loteri Genedlaethol, Erasmus+, Taith Cymru, LocalGiving yn ogystal â llawer o sefydliadau celfyddydol, ieuenctid ac addysg lleol a rhyngwladol.
Mewn blynyddoedd blaenorol rydym wedi hwyluso trafodaethau lluosog ar sector dawns Cymru; rydym wedi cydweithio â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Creu Cymru, Ballet Cymru, a Ground Work Pro i hwyluso sgwrs 'Man Agored' ar draws y sector. Rydym yn ymdrechu i gysylltu’r sector dawns yng Nghymru, i’w ailadeiladu’n fwy cynhwysol, amrywiol a chroesawgar.