Mae Kokoro Arts yn cefnogi ac yn hyrwyddo datblygiad a gwaith artistiaid ifanc, yn hwyluso trafodaeth ar hyd a lled y sector ac yn cefnogi cynhwysiad, hygyrchedd ac amrywiaeth drwy gydol sector ddawns Cymru.


Gundija Zandersona - Cyfarwyddwr Gweithredol 

Krystal S. Lowe - Cyfarwyddwr Artistig

Hoffem gyhoeddi bod ein Cyfarwyddwr Artistig Krystal S. Lowe yn gadael y cwmni ar ddiwedd y flwyddyn hon. Ar yr adeg hon yn ei gyrfa mae wedi penderfynu blaenoriaethu perfformio a chreu gwaith a dymunwn y gorau iddi yn ei hymdrechion yn y dyfodol. 

Ysgrifennodd Krystal: “Dros y ddwy flynedd ddiwethaf fel Cyfarwyddwr Artistig Kokoro Arts, rwyf wedi cael cyfle i ddysgu a datblygu. Roedd yn benderfyniad anodd i adael y cwmni oherwydd fy mod i'n angerddol am y gwaith o gefnogi a datblygu artistiaid ifanc ac rwy’n gwerthfawrogi pob eiliad yn mentora a dysgu gyda'r artistiaid ifanc sydd yn gysylltiedig â'r cwmni. Edrychaf ymlaen at y gwaith gwych sydd i ddod yn y dyfodol ar gyfer y cwmni."


Mae Krystal wedi bod yn rhan annatod o adeiladu a siapio Kokoro Arts i'r cwmni y mae heddiw a bydd colled ar ei hôl wrth fynd ymlaen. 

Mae ein cwmni wedi tyfu i bwynt lle rydym yn barod i wahodd lleisiau newydd i ymuno â ni a'n cefnogi. Yn y cyfamser, bydd cyfarwyddwr gweithredol y cwmni, Gundija Zandersona, yn cymryd drosodd ei dyletswyddau fel Cyfarwyddwr Artistig. 

******************************


Rydym wedi hwyluso sgyrsiau sector ddawns a arweiniodd at Rwydwaith Dawns Cymru yn derbyn grant ‘Cydrannu’ gan Gyngor Celfyddydau Cymru er mwyn datblygu llais o dan arweiniad y sector ar gyfer dawns yng Nghymru.

Rydym wedi cydweithio gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Creu Cymru, Ballet Cymru, a Ground Work Pro er mwyn hwyluso sgwrs 'Gofod Agored’.

Ynghyd â chomisiynau creadigol a’n swyddogaeth fel Asiant Creadigol ar gynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol Cyngor Celfyddydau Cymru, rydym wedi ymrwymo i fentora artistiaid unigol sy’n dod i’r amlwg. Gwnawn hyn drwy gynnig cyngor, cymorth wrth ysgrifennu manylion gyrfa a cheisiadau, a drwy bostio cyfleoedd wythnosol i artistiaid llawrydd.

Rydym wedi derbyn arian gan Gyngor y Celfyddydau, Llywodraeth Cymru a grant ‘Cyd-rannu’ a ariannir gan y Lotri Genedlaethol i gefnogi Artistiaid yr Undeb Ewropeaidd yn Rhwydwaith Cymru i ddod at ei gilydd. Wrth ddod ynghyd byddant yn cymryd rhan mewn cyfres o drafodaethau er mwyn ffurfio rhwydwaith gymorth broffesiynol ac i rannu profiadau.

Rydym yn rhedeg project dan nawdd Erasmus+ o’r enw Ffindir Latfia Cymru. Gellir ei ddilyn gyda sefydliadau partner sef LAUKKU a Luznavas Muiza o Latfia, Cymorth Ffoaduriaid y Ffindir a Disakamula Oy o’r Ffindir a Chlybiau Bechgyn a Merched Cymru. Project traws-genedlaethol a rhyngddisgyblaethol yw hwn sy’n anelu at chwilota a chyfnewid arfer ar ddefnyddio ymagweddau creadigol sy’n seiliedig ar y corff ar gyfer cynhwysiad cymdeithasol ac adeiladu cymunedau.

Diolch i gynllun ‘Cysylltu a Ffynnu’ Cyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn rhedeg project Mynediad, Cynhwysiad, Cysylltiad i Artistiaid sy’n dod i’r Amlwg. Bydd hyn yn cynnig cyfle i bedwar artist yn gynnar yn eu gyrfaoedd i weithio ar y cyd a chwilota sut gall mynediad a chynhwysiad fod yn rhan annatod o’u hymarfer symudiad. Mae’r rhaglen hon, mewn partneriaeth gyda Stephanie Back, KrystalDawn Campbell, Eädyth Crawford, Matthew Gough, Chris Ricketts, Ballet Cymru, a Kokoro Arts, yn gosod gweithredoedd a safbwyntiau gwrth-ableddol wrth graidd datblygu’r genhedlaeth nesaf o artistiaid symud yng Nghymru.