Emerging Artists: Access, Inclusion, Connection
Rhaglen datblygu yw Artistiaid sy’n dod i’r Amlwg: Mynediad, Cynhwysiad, Cysylltiad ar gyfer artistiaid symudiad sydd ar ddechrau eu gyrfa ac sydd yn gwerthfawrogi hygyrchedd a chynhwysiad. Wedi ei ariannu gan gynllun ‘Cysylltu a Ffynnu’ Cyngor Celfyddydau Cymru, mae’r rhaglen hon yn gosod gweithredoedd a phersbectifau gwrth-abliol yn ganolog wrth ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o artistiaid symudiad yng Nghymru.
Byddwn yn gweithio gyda phedwar artist ar ddechrau eu gyrfaoedd (18+ o ran oed) i chwilota gyda’i gilydd i ganfod sut gall mynediad a chynhwysiad fod yn rhan annatod o’u hymarfer symudiad. Bydd pob artist yn datblygu eu sgiliau a gwybodaeth drwy 15 gweithdy datblygu proffesiynol, 9 sesiwn mentora un-i-un, sesiynau cynghori gyda chynhyrchydd, cymorth i greu darn ‘digidol’ ar waith.
Partneriaid y Rhaglen:
Stephanie Back, Krystal Dawn Campbell, Eädyth Crawford, Matthew Gough, Chris Ricketts, Ballet Cymru (Amy Doughty), a Kokoro Arts (Gundija Zandersona a Krystal S. Lowe).
Yn y rhaglen hon, rydym wedi penderfynu defnyddio’r derminoleg benodol yma:
Byddar:
Defnyddiwn y term Byddar i gyfeirio at bobl Byddar, byddar (wedi byddaru) a Thrwm eu Clyw fel cymuned gynhwysol.
Pobl Du, Asiaidd, a phobl o liw sydd heb fod yn ddu:
Mae disgrifio a diffinio ethnigrwydd yn gymhleth, ac o edrych ar yn o bersbectif byd-eang nid ‘gwyn’ yw’r mwyafrif. Defnyddiwn y term Du, Asiaidd, a Phobl o liw sydd heb gof yn ddu fel cyfeiriad cyfunol ar gyfer ystod eang o bobl sydd wedi cael eu hymylu o ganlyniad i’w hethnigrwydd.
Anabl:
Defnyddiwn Fodel Cymdeithasol Anabledd sydd yn gosod safbwynt mai agweddau a systemau sydd yn anablu, nid yr amhariad unigol. Nid yw pob anabledd yn weladwy, felly byddwn yn cynnig atodeg mynediad i bawb y byddwn yn gweithio â nhw.