Artistiaid sy’n dod i’r amlwg: Mynediad, Cynhwysiad, Cysylltiad



Rydym yn araf deg yn agosáu at derfyn ein rhaglen datblygu beilot ar gyfer artistiaid symudiad ar ddechrau eu gyrfa sy’n rhoi gwerth ar hygyrchedd a chynwysoldeb. Caiff y project hwn ei ariannu gan gynllun ‘Cysylltu a Ffynnu; Cyngor Celfyddydau Cymru ac mae’n gosod gweithredoedd a phersbectifau gwrth-ablaidd wrth graidd datblygu’r genhedlaeth nesaf o artistiaid symud yng Nghymru. 

“Rhywbeth a ddysgais drwy gydol y broses yw pwysigrwydd yr iaith a ddefnyddiwn, yn enwedig wrth gyfeirio at grwpiau o bobl sydd wedi cael eu hymylu, a sicrhau bod eu lleisiau a’u barn yn cael eu gosod yng nghanol y sgwrs honno. Er fy mod yn wrth-ablaidd, fe ddarganfyddais drwy’r gweithdai bod gan beth o’r derminoleg yr oeddwn i’n ei ddefnyddio, y potensial i fod yn niweidiol neu’n sarhaus i bobl anabl.” A.Howells, Artist Cysylltiol


Dewch i gwrdd â'r partneriaid (opens in a new tab)

Rydym yn falch o ymgysylltiad a chyfraniad partneriaid a’u gallu i wneud penderfyniadau datganoledig ar y cyd. Bu’n glir fod gwneud penderfyniadau o’r ‘pen i’r gwaelod’ yn parhau i fod y norm o weithio yn sector y celfyddydau yng Nghymru, felly buom yn gweithio ar ddod o hyd i strategaethau newydd er mwyn herio hyn.

Dewch i gwrdd â’r Artistiaid (opens in a new tab)

Cafodd pum artist yn gynnar yn ystod eu gyrfa gynnig y cyfle i ddysgu a datblygu eu gwybodaeth ac i chwilota dulliau o integreiddio Mynediad a Chynhwysiad i’w arferion symud drwy gymryd rhan mewn Sesiynau Ffynnu a chreu eu gwaith digidol eu hunain yn y broses. Fe wnaethon nhw gymryd rhan hefyd mewn sesiynau datblygu gyda phobl broffesiynol o’r sector fel cynhyrchydd a chyfansoddwr a derbyn mentora 1-i-1 er mwyn cefnogi eu taith artistig/gyrfa ar y project hwn a thu hwnt.

Artistiaid Cysylltiol:

Marla King

Freya Dare

Roisin Murphy-Mortimer

Eluned Owen

 

Becky Johnson 

Amber Howells

Nadine Turk

Natasha Dawkes 


Yn ystod y cyfnod recriwtio fe dderbyniom nifer o geisiadau gan ystod eang o artistiaid symud anhygoel oedd ar ddechrau eu gyrfa. Penderfynom agor y project i wyth Artist Cysylltiol ychwanegol er mwyn rhoi ysgoloriaeth iddyn nhw allu ymgysylltu â’r Sesiynau Ffynnu.

Hwyluswyr Sesiwn: 

Stephanie Back

Suzie Birchwood

Eadyth Crawford

Amy Doughty

Matthew Gough

 

Tafsila Khan

Cathryn McShane-Kouyate

Megan Pritchard (NDCW)

Chris Ricketts

UCAN

Mentoriaid:

Bev Lennon, 

Cathy Boyce

Gemma Coldicott

 

Keith Murrell

Rachel Pedley

Mae ein cyfres o Sesiynau Ffynnu (gweithdai/trafodaethau datblygu proffesiynol) oedd ar agor i gyfranogwyr a’r holl bartneriaid. Ffocws y sesiynau hyn oedd codi ymwybyddiaeth o anghydraddoldeb yn y celfyddydau, i wrando ar leisiau a safbwyntiau amrywiol, a dysgu sut i ddechrau gwneud gweithiau celf seiliedig ar symud, sydd yn gynhwysol a hygyrch. 

“O ganlyniad i’r sesiynau Ffynnu hyn, rwy’ wedi gallu adnabod ble a sut mae fy ymarfer yn annigonol ac o fwy o bwys, yr hyn sydd angen i fi ei wneud i wella hynny. Er enghraifft, rwy’n cydnabod fod fy ngwaith yn dangos gogwydd gweledol iawn (..).” B. Johnson, Artist Cysylltiol

Roedd y sesiynau hyn yn cynnwys themâu fel:

Gwaith Amlieithyddol - Sesiynau o dan arweiniad iaith arwyddo BSL oedd yn cyfeirio at Fynediad & Chynhwysiad o safbwynt byddar; prosesau creadigol amlieithyddol; Saesneg-Cymraeg -BSL o safbwynt cyfieithydd ar y pryd. Rhannwyd yr wybodaeth gyda’r artistiaid gan weithio drwy dasgau ymarferol, ystafelloedd ymneilltuo a thrafodaethau. Cafwyd y chwilota dyfnaf i’r derminoleg (e.e. model cymdeithasol anabledd) yn ystod y sesiynau hyn, a phrofwyd y tasgau ymarferol anodd, a chafwyd sgwrs agored.

Disgrifiad Clywedol - Sgyrsiau agored yn chwilota disgrifiadau clywedol ar gyfer cynulleidfaoedd dall a phobl â nam ar eu golwg yn ogystal â thasgau ymarferol yn adolygu disgrifiadau clywedol ‘prawf’. Disgrifiadau clywedol a grëwyd gan gyfranogwyr eu hunain, a sesiwn ‘gynnig syniad’ neu ‘pitching’. Gan dynnu ar fedrau’r hwylusydd fel ymgynghorydd, fe rannodd hithau ei phersbectifau, strategaethau a’u llwybr ei hun at fod yn ymgynghorydd.

“Un peth rwyf wedi dechrau newid yn y ffordd rwy’n gweithio yw meddwl am ddulliau amgen i gyfathrebu cysyniad. Rwy’ wedi sylweddoli bod fy holl waith hyd yn hyn wedi bod yn weledol gyfathrebol yn unig, felly rwy’ nawr yn dechrau chwilota cyfathrebu cysyniad drwy gyfrwng synhwyrau eraill.” A. Sirina, Artist


Mynediad a Chynhwysiad yn y gweithle - Sesiynau i gyflwyno Dyluniad Cyfarwyddyd Cyffredinol a sut mae’n gymwys ar gyfer dawns. Cymysgedd o dasgau ymarferol, ac enghreifftiau cyd-destunol o ddawns wedi’i integreiddio. Gweithdy iaith BSL gyda gemau a thasgau sy’n chwilota mynediad & chynhwysiad ac yn helpu i danlinellu pwysigrwydd defnyddio arweinwyr iaith BSL o fewn y gofod. Cafodd awgrymiadau clir eu cynnig ynglŷn â sut mae gweithio’n gynhwysol, fel bod pob person creadigol yn teimlo fel pe baen nhw wedi cael eu galluogi/’clywed’ yn hytrach na chael eu hynysu. Sesiwn a gynigodd trosolwg o weithio gyda chynulleidfaoedd ac artistiaid dall a chyda nam ar eu golwg, wedi’i draddodi yn y Gymraeg a’r Saesneg.

- Cyfryngu Dawns - Chwilota aml-weddau niferus cyfryngu dawns ar gyfer y sgrin.

- Cyfryngau Hygyrch - Offer, a dulliau i wneud cyfryngau cymdeithasol a deunyddiau cyfathrebu yn hygyrch. Llawer o fanylion a chyngor ymarferol gydag enghreifftiau o NDCW a sefydliadau eraill yn cynnig adnoddau a thechnolegau. Cafodd yr artistiaid eu hannog i ymarfer drwy wneud eu cyfryngau cymdeithasol eu hunain yn hygyrch. Ariannwyd y sesiwn yma gan NDCW fel rhan o’u hymrwymiad tuag at gydweithrediad o fewn y sector a’r cytundeb diwylliannol.


“Rhywbeth sydd wedi fy synnu i yw gweld pa mor anghynhwysol gall y celfyddydau a chymdeithas fod i bobl anabl. Cafodd y darganfyddiad hwn effaith anferth ar fy ngwaith ac yn enwedig ar ôl y sesiynau Dylunio Cyffredinol, rwy’ wedi newid fy null o ddysgu dawns ac yn anelu at wneud fy nosbarthiadau yn wirioneddol gynhwysol a hygyrch i bawb.” N. Turk, Artist Cysylltiol


“Wnes i ddim sylweddoli pa mor gyfyngedig oedd fy nghelfyddyd cyn i fi fynychu’r sesiynau hyn ac mae wedi gwneud i fi feddwl am ffyrdd newydd o sicrhau fy mod yn creu gwaith sy’n hygyrch i bawb.” N. Dawkes, Artist Cysylltiol

Mae yna ymdeimlad clir o ddysgu parhaus ynglŷn ag ymarfer Mynediad & Chynhwysiad, gyfochr â dealltwriaeth well o sut mae angen i’r sector ymateb. Rydym yn mapio’r camau sydd angen eu cymryd, yn fewnol ac yn allanol, gyda sylw penodol i sut maen nhw’n gweddu orau i orchmynion sector ehangach yn yr hirdymor.